Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Gwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol
CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL 2016
Ystafell Giniawa 2, Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 12.30-13.15
5 Chwefror 2016
Aelodau’r Cynulliad yn bresennol
Mick Antoniw
Ysgrifenyddiaeth
Derek Walker (Prif Weithredwr, Canolfan Cydweithredol Cymru)
Arsylwi
Ceri-Anne Fidler
Nick Wall
Agorodd Mick Antoniw y cyfarfod am 12.30.
Aelodaeth
Gan nad oedd Aelodau yn gallu bod yn bresennol, cytunwyd y byddai eu cytundeb i gael eu hail-benodi ar gyfer y flwyddyn 2015-16 yn cael ei gadarnhau drwy ohebiaeth ysgrifenedig. Byddai gofyn iddynt hefyd gadarnhau ail-benodiad y Cadeirydd a'r Ysgrifennydd.
Adroddiadau Blynyddol a Chyfrifon
Cyflwynwyd yr adroddiadau blynyddol a’r cyfrifon ac fe’u cymeradwywyd.
Cyfarfodydd y grŵp yn y dyfodol
Cytunodd y Grŵp y byddai’n ymdrechu i ailsefydlu'r grŵp yn y pumed Cynulliad.
Cytunwyd i gynnal y cyfarfod nesaf ar ôl etholiadau mis Mai. Awgrymwyd y byddai'r cyfarfod nesaf yn canolbwyntio ar ddulliau ymarferol a pholisïau ar gyfer rhoi argymhellion Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru ar waith. Trafodir pynciau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol yn y cyfarfod hwn.
Gan nad oedd unrhyw fater arall, daeth y cyfarfod i ben am 13.00.